Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn ceir "Dafydd Jones's Book 1770." Ym mhellach ymlaen yn y llyfr ceir,—

"Yma y terfyn y pumed Llyfr Cerddwriaeth Cerdd Dafawd. Ac ef a gopiwyd y Llyfr hwn allan o lyfr y Godidocaf Bencerdd ac Athraw goreu yn i amser Simwnt Fychan: a Dafydd Salbri o Ddol Badarn biau y Llyfr hwn oed Crist pan ysgrifennwyd hwn 1593. Rich. ap John ai scrifennodd. A minneu Dafydd Jones o Drefriw a biau'r Llyfr hwn y flwyddyn hon 1771."

Ei gynnwys yn bennaf yw "Darn o Ramadeg Simwnt Fychan. Traethawd wedi ei gyfieithu o'r Groeg a'r Lladin ar figyrau ymadrodd gan W. S., wedi ei helaethu gan Thomas Williams, Trefriw." Mae 16 tu dalen o hwn wedi ei ysgrifennu gan Dafydd Jones.

XXII. Additional MSS. press mark 15045, Caerhun No. 16. Cyfrol o bapyrau meddygol, mewn cyflwr braenus.

XXIII. "MS. 110. Three Welsh Grammars, The Dream of Maxen Wledig, Elucidarium, Commotes and Cantreds of Wales, Astronomy, &c. Paper, 73 x 53 inches; pages i.—x. and 1—246; bound in vellum; written by Thomas Williams before he began to sign himself Thomas ap Wiliam, physicwr. Pages 112—114 and