Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

129—130 are in the autograph of Robert Vaughan of Hengwrt, 16 May, 1656; and Darogan Beli page 216 appears to be written by D. Jones [? o Lanfair Dyffryn Clwyd.]" Dyna ddesgrifiad Dr. Gwenogfryn Evans, Report of Welsh MSS., gyf. i., tud. 23.

Mae'r Dr. Gwenogfryn Evans yn cymell ei dybiaeth mai Dafydd Jones Llanfair yw'r D. Jones uchod fu'n treio ei law ar groniclo "Darogain Beli." Tueddir ninnau'n gryf i gredu mai Dafydd Jones Trefriw. Mae camgymeriad tebyg, sef priodoli gwaith Dafydd Jones Trefriw i David Jones Llanfair, wedi ei wneyd yn Rhestrau MSS. yr Amgueddfa Brydeinig, a hynny yn hollol anesgusodol. Mae trefn y llyfr i raddau pell iawn, yn milwrio yn erbyn tybiaeth Dr. Evans. Hen lyfr Thos. Williams Trefriw ydyw, yr hwn a ysgrifennodd ei hanner cyntaf.

Ysgrifennwyd rhannau eraill gan R. Vaughan yn 1656, a cheir gwaith Dafydd Jones yn un o'i ddalennau olaf. Mae'r drefn yn chwithig, os nad yn amhosibl amseryddol. Yr oedd David Jones neu John, Llanfair, ficer Gresford a phrebendari Llanfair yn 1560, Canon Llanelwy yn 1564, wedi