Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/186

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

marw cyn dechreu o Thos. Williams wneyd fawr waith fel ysgrifennwr llyfrau. Yn wir amhosibl oedd i un o lyfrau Thos. Williams fyned trwy ddwylaw David Jones. Os David Jones Llanfair yw hwn, rhaid mai llyfr D. Jones yw'r llyfr ac nid yr eiddo Thos. Williams. Os oes rhyw bwys yn nhrefn yr enwau, a chredwn fod, rhaid felly mai Dafydd Jones Trefriw oedd y D. Jones hwn. Dengys gweithiau Dafydd Jones Trefriw ei fod yn gydnabyddus a'r llyfr hwn, neu a llyfr arall hollol debyg iddo o waith Thos. Williams. Yn Ad. MSS. 15046, neu 21 o'r rhestr hon ceir Dafydd Jones wedi copio "Traethawd ar ffigyrau ymadrodd gan W. S., wedi ei helaethu gan Thomas Williams," tra mae'r traethawd i'w gael ar tud. 131 o'r llyfr hwn.

Yn y Yn y "Cydymaith Diddan," tud. 31, ceir cas bethau Ieuan Brydydd Hir ac Owain Cyfeiliog, a cheir hwy hefyd yn y llyfr hwn tud. 128 a 130. Cyhoeddodd Dafydd Jones yn 1745 yr hen chwedl boblogaidd yn ol yr hen ysgriflyfrau, Efengyl Nicodemus, a rhydd a ganlyn fel rheswm dros ei chyhoeddi,—

"Fe ddywed rhyw rai (mae'n debyg) mae peth a ddyfeisiais i neu arall yw Efengyl