Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/187

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nicodemus; ond gwybydded y cyfryw rai mai o Lyfr ysgrifen y Dr. Tho. Williams o Drefriw y tynnais i y copi hwn, o'r Llyfr Gwyn o Hergest y Cadd ynte yr hyn a 'scrifenodd ef ynghylch y flwyddyn 1596."

Mae'r Efengyl hon ar tud. 171 o'r llyfr hwn, ac os yw dyddiad Dafydd Jones yn gywir yr oedd D. Jones, Llanfair, wedi marw ers chwe blynedd cyn ynghylch y flwyddyn 1596." "D. Jones o hen lyfre," geir yn y llyfr, ac mae hynny fel llawer nodiad arall a geir o dan ei waith yn copio. Felly ein casgliad yw mai un o hen lyfrau Dafydd Jones, o leiaf iddo fod yn ei ddwylaw yn rhyw le, yw'r llyfr hwn. Hawdd y gallasai fyned oddi wrth Ddafydd Jones i Lyfrgell Mostyn trwy ddwylaw y Prydydd Hir.

XXIV. "MS. 262—Hen, 183. Pum Llyfyr Kerddwriaeth. Paper; 113 x 71 inches; pages 13—152, imperfect at beginning and end; written in 1681; sewn in sheepskin. This was probably the MS. of John Davies, bardd Nanneu, whose name it bears (p. 103). And his pedigree is given in the hand of D. Jones of Trefriw (p. 146). In 1740 it belonged to John Kadwaladr o blwy Ll. Drillo."