Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/193

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei farf yr oedd arno wir angen ellyn. Canys cwyna fod ei gernflew fel

"Sofl aflwydd sy flew hwyl flaidd,
Galwn hi yn gol haidd."

"Be gwasgwn bigau ysgall,
Ar fy llaw i friwo'r llall."

a

"Shop aethus swp o eithin."

Mae yma hefyd " Gywydd Moliant Mr. Hugh Hughes, Person, Trefriw, 1736." Mor wasanaethgar oedd yr awen y pryd hwn i ganu clod dynion, a hynny weithiau heb fawr haeddiant.

XXX. Tair cyfrol, plyg 6 x 4, 200 tud., ym meddiant y Parch. R. Jenkin Jones, M.A., Aberdar. Mae'r cyfrolau hyn yn cynnwys amrywiaeth mawr o farddoniaeth o eiddo Dafydd Jones ei hun, a hefyd lawer o ddyfyniadau o lyfrau Dr. Thos. Wiliams. Yn ei dro bu'r ysgriflyfrau hyn yn eiddo

Dafydd Jones, (eu hysgrifenydd).
Edward Jones. (Bardd y Brenin).
Josiah Rees, (Gol. Eurgrawn 1770).
Richard Rees, ei fab.
Parch John James, Gellionen.
Parch. Thos. Thomas, U.H.. Pant y Defaid
Parch. R. Jenkin Jones, M.A.