Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dysgu'r bobl i ddarllen. Honnir mai un o brif achosion ei llesgedd oedd ei thlodi. Hyn sydd ffaith amlwg, gweithiodd rhai offeiriaid a gweinidogion tlodion yn wych er deffro a chodi'r wlad i fywyd uwch. Ni bu tlodi yn eu hachos hwy yn ddigon i'w hatal rhag ymdrechu.

Dioddefai'n dost hefyd oddi wrth y dwymyn Seisnig. Cwynai Dafydd Jones yn ei ragymadrodd i'w "Gydymaith Diddan" mai pedwar Sais oedd esgobion Cymru. A thrachefn, yn ol llythyrau y Prydydd Hir, "yr oedd personiaid o Saeson hollol yn cael eu penodi i fywioliaethau o Fflint i Fon." A pha flas gaffai estroniaid ar bethau Cymreig? A llesgaodd bywyd o achos y diflasdod. Felly yr oedd y nerth hwn, a allesid droi er llwyddo llenyddiaeth ymhlith y cyffredin, yn gorwedd yn farw. A bu orfod ar lenyddiaeth y wlad drigo'r mannau lle caffai groesaw, y fath honno o oes ag yr oedd y clochyddion yn amgenach llenorion na'u meistriaid.

Darn arall o hanes prudd yr amseroedd hyn ydoedd anwybodaeth y bobl, a'u hanallu i ddarllen. Rhaid aros mewn syndod uwch ben y ffaith anwadadwy fod cyfangorff y genedl yn hollol anysgedig, hyd yn oed yn analluog i ddarllen iaith