Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu haelwydydd. Pa le yr oedd eu gwaredwyr, y rhai a ofidient o'u hachos? Teimlodd y Morrisiaid i'r byw angen Cymru am Feiblau; ond gadawsant y mater o ddysgu'r werin i'w darllen i eraill. Methais weled un crybwylliad yn holl lythyrau y Morrisiaid na Goronwy Owen at ysgolion Gruffydd Jones o Landdowror. Ceir un crybwylliad byrr yn un o lythyrau'r Prydydd Hir. Rhaid y gwyddent am danynt; canys bu'r ysgolion hyn mewn llawer cymdogaeth yn y Gogledd, a llawer gwaith yn eu tro mewn rhai cymdogaethau. Gwawdiasant y "Gwahanyddion hyntiog a thrystiog," er eu gofid a luosogent yn y tir. A rhaid y safasant o hir bell, gan wylied yn amheus lafur un o'r gwyr eglwysig goreu a welodd Cymru. Paham na ddeallasant fod y math hwn o addysg yn hanfodol angenrheidiol er llwyddiant llenyddiaeth yn gyffredinol?

Yr oedd Dafydd Jones fel yn canfod yr anhawsder, a meddyliodd geisio ei symud. Canys hyn oedd un o amcanion cyhoeddi'r "Cydymaith Diddan." Fel llawer o lyfrau'r amser hwnnw, ceir y wyddor ar ei ddechreu, ac amcanwyd ei wneyd mor "ddiddan" nes peri i ddyn-