Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caniatau i Ddafydd Jones ei ddymuniadau. Wele'r rhestr,—

Sion Dafydd.
Dafydd (Jones) Sion.
Ismael Dafydd.
John Jones.

Fel y gwelir, enw ei hen daid a chyfenw ei daid oedd gan John Jones Llanrwst. Danghosodd Dafydd Jones awydd calon am gael yr enw Sion Dafydd yn y teulu; enwodd ddau o'i blant felly, ond buont feirw yn ieuainc. Mae'n debyg, yn ol yr enw, mai Dafydd Jones oedd y bachgen hynaf. Ni lwyddais i gael un crybwylliad am frawd na chwaer. Syndod i raddau iddo dewi a son am en genhedlaeth; gall, o ran hynny, fod yr holl ddirgelion ynghadw yn rhywle, ac eu ceir pan ddeuir o hyd i'w holl ysgriflyfrau.

Pa bryd ei ganwyd sydd i raddau'n anhawdd ei benderfynu, oherwydd gwahaniaeth dyddiadau. Ni cheir un cofrestriad o fedyddio yng nghofrestri Trefriw a Llanrhychwyn. Felly gobaith gwan gwaredigaeth o gofrestr eglwys, am na wyddis pa le i'w cheisio. Mewn hen ysgriflyfr o waith Dafydd Jones, ym meddiant y Parch. R. Jenkyn Jones, M.A.,