Wele hefyd gofnodiad eu bedyddio, ond wedi ei thalfyrru, o gopi a gawsom o swyddfa cofrestru Eglwys Gadeiriol Bangor,—
- 1. John the Son of David Jones, and Gwen his wife, was baptized the 28 Feb., 1739.
- 2. Elizabeth. . . " . . .". . . 25 August, 1742.
- 3. Jane . . . " . . .". . . 12 Feb., 1744.
- 4. Ann . . . " . . .". . . 13 Dec., 1747.
- 5. Cathrine . . . " . . .". . . 8 March, 1751.
- 6. John . . . " . . .". . . 8 Sept., 1754.
- 7. Ismael. . . . " . . .". . . 1 January, 1758.
O gymharu'r ddwy restr uchod, gwelir fod rhai o'r plant wedi eu bedyddio ar ddydd eu genedigaeth, ac eraill yn ebrwydd gwedi; arfer gyffredin yn yr amseroedd hynny. Ymddengys nad ysgrifennodd ef ei restr yn y llyfr uchod ar y pryd, ond ei hadysgrifennu mewn amser dilynol, ac wrth wneuthur hynny rhoddodd y seithfed yn lle'r chweched. Ond mae'r manylder a'r manylion rhyfedd a rydd yn profi ei fod yn copio o ryw gofnodiad a wnaeth ar y pryd.
Fel yr awgrymasom, yr oedd Dafydd Jones yn awyddus am gadw yr enw Sion a Sion. Dafydd yn y teulu, oherwydd henwodd ddau o'i blant ar yr enw hwn. Ei blentyn hynaf oedd fachgen, a galwodd ei enw