Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae yn y "Cydymaith Diddan" areithiau dirwestol da, a hynny pan nad oedd dirwest ar faner nac eglwys na chymdeithas. Hefyd mae'r un mor anghyson â'i ganeuon moesol, yn arbenigol felly y broffes o'i grefydd a wna yn rhagymadrodd y "Flodeugerdd," "Cydymaith Diddan," a "Histori'r Iesu Sanctaidd." Os gwir gosodiad Gwilym Lleyn, rhaid ei fod yn rhagrithiwr o'r fath waethaf, a fod ei ragymadrodd i'r Flodeugerdd yn ymylu ar fod yn gabledd annuwiol.

Bu'n darogan am flynyddoedd ei fod yn agos i'w ddiwedd. Pan dan ei faich, ac ambell saeth yn ei galon, carai son am y bedd. Bu fyw, er baich a chwyn, hyd onid oedd yn 77 oed. Claddwyd ef Hydref 20, 1785. Gorwedd ei weddillion o fewn ychydig lathenni i'w hen gartref, Tan yr Yw. Wele gopi o eiriau cofeb ei fedd,—

Yma y claddwyd Dafydd Jones
Tan yr Yw. Henafiaethydd, &c., c. c. c.
Claddwyd Hyd. 26 1785 yn 77 oed.

Hefyd
Dafydd Jones, mab Ismael Davies, Bryn Pyll, o Jane ei wraig,
Tach. 30 1789 yn y 6ed flwydd o'i oed.