Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddel ef iddi? Conffirmio plant a phregethu. Mewn pa iaith? Saesoneg a Lladin. Pwy sy'n i i ddeall? Y deon a'r ficeriaid ac ymbell wr bonheddig. Oh! Mi welaf nad yw'r lleill ond fel y coed a'r cerrig, fal yr oeddynt cyn y Refformation neu'r Diwygiad.

"Y rwan heb un Esgub o Gymro ganddo o fewn ei 4 Esgobaeth o bydd neb i'm gohebu, am fod mor eofn. Briwedig wyf o weled fod ein Heglwys yn amddifad o Gymro, i fod yn ben colofn iddi, na chae ryw Fryttwn gymaint a hynny o fraint, doed imi a ddel o ddig a bar am fy mhoen."[1]

Nid beirniadaeth oer un o'r tu allan, na chwaith duchan gŵr siomedig o'i mewn, ond datganiad caredig a gonest o deimlad yw hwn. Er mor deg a phri—odol yr ymddanghosai ei gwyn, buasai'n chwith ganddo ddeall mai ymhen 105 o flynyddau y gwelwyd yn ddoeth wella'r aflwydd. Yr un eu cwyn ag ef oedd y beirdd-offeiriaid; ond ei hagwedd foesol, a llesgedd ei hymdrech i oleuo'r wlad ac achub eneidiau, oedd cwyn y Diwygwyr o fewn ac o faes i'r Eglwys. Er ei fod ef ei hun yn llefaru geiriau lled arw a gonest am yr Eglwys, nid da oedd gan Ddafydd Jones i arall wneuthur hynny,

  1. Cydymaith Diddan, t.d. 7.