Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r wlad, yn gas yn ei olwg; yn hytrach fel arall. Yr oedd yn hollol sicr yn ei feddwl na chynwysai'r Efengylau holl hanes Iesu Grist, ond fod y "Tadau Sanctaidd wedi diogelu'r gweddill. Ac yr oedd traddodiadau'r tadau mor ddwyfol yn ei olwg ef a'r gwirionedd ei hun,—

"Ond eto rwy'n gweled fod y Tadau Duw. iol wedi adrodd llawer trwy ysbrydoliaeth nefol, o wrthiau nodedig yn eu llyfrau."[1]

Cyfeiriai bob amser at yr Apostolion yn y dull eglwysig,—St. Paul a. St. Pedr. Aeth mor bell a chymeryd chwedlau mynachod y Canol Oesoedd fel traddodiadau i'w credu. Diau fod yr elfen hon yn ddofn yn ei natur, ac yr oedd nodwedd cymdeithas a chrefydd ei oes yn llawer mwy o fantais iddi nac o ataliad arni.

  1. Histori yr Iesu Sanctaidd. 1776. Tud. 4.