wedi digwydd ar ddydd priodas Dafydd Jones. Marchogai cyfeillion y priodfab tua chartref y ferch ieuanc, a'r rhan fynychaf yr oedd hithau yn ymguddio yn rhywle ar eu dyfodiad yno. Curent wrth y drws a gofynnent am dad y briodasferech. Hwnnw a wnai ei ymddanghosiad a gofynnai y marchogion iddo am ei ferch, ac wedi cryn siarad a chyfnewid llongyfarchiadau a nodweddid yn fynych gan foesgarwch digymar y dyddiau gynt, ffurfid yr orymdaith tua'r llan —y tad ar gefn ei farch, a'r ferch oedd i'w huno a'i chariad mewn glân briodas wrth ei ysgil ar y ceffyl. A chan fod hyn cyn dyddiau y cerbydau gwylltion sydd yn ein gwlad heddyw, byddai y wraig ieuanc yn myned tua'i chartref newydd wrth ysgil ei gwr. Dyma fel yr aeth Dafydd Jones a'i briod tua Cwmgogerddan ar brydnawn heulog dros y mynydd o Langeitho, ac y mae yn hawdd iawn i ni gredu ei fod yn dweyd y gwir yn y rhigwm cyntaf sydd ar gael o'i waith,—
Mae'r ceffyl glas yn egwan,
A'r chwys oddiarno'n tropian,
Y ffordd yinhell a'r llwyth yn drwm,
Oddiyma i Gwmgogerddan."
Bu y briodas yn un hapus dros ben, a phrofodd Mrs. Jones ei hun yn wraig dda, yn gymydog a fawr berchid, ac yn fam dduwiol. Blynyddau o dangnefedd oedd y rhai y bu yn briod â merch Abercarfan i'r emynnydd, ond tymor byr a fu. Bore teg, a chwmwl yn ei dristau cyn hanner dydd oedd eu bywyd, oherwydd bu farw Mrs. Jones tua 1748.
Priododd yr ail waith, fel y bu ffolaf. Miss Price o'r Hafod Dafolog, ym mhlwyf Llanwrda, oedd ei wraig. Bywyd anedwydd gafodd y bardd ar ol hyn. Gadawodd Cwmgogerddan, a symudodd i'r Hafod at ei wraig, ac yno y bu y rhan oedd yn ol o'i ddyddiau yn amaethu ac yn prynnu anifeiliaid ar hyd ffeiriau Cymru, a'u gwerthu yn Lloegr. Yr oedd hyn yn beth cyffredin flynyddau lawer yn ol. Byddai tair neu bedair ffair yn y cymydogaethau yn bur agos i'w gilydd. Prynnai y porthmyn wartheg a bustych ynddynt, ac yna cychwynnent tua rhai o ffeiriau Lloegr. Treulient ddyddiau lawer ar y daith. Cerddent yno, a cherddent bob cam o'r ffordd yn ol. Y mae degau o ddynion ar hyd y wlad yn awr sydd wedi bod ar bererindod ym mhrif drefydd Lloegr yn gyrru anifeiliaid. Maent yn alluog i siarad iaith y Saeson yn llithrig, ac y mae yn hawdd eu hadnabod wrth eu gwisg a'u siarad. Nid oedd eu hiaith bob amser yn rhy lân, ac yr oedd rhywbeth yn eu hosgo yn dweyd eu bod wedi gweled y byd—yn ei fan gwaethaf.
Gwaith fel hwn a ychwanegodd Dafydd Jones at ei oruchwylion ar y tyddyn, a phan yn dychwelyd ryw dro ar hyd y ffordd fawr o Lanfair Muallt i Lanymddyfri, trodd i mewn i hen gapel Troedrhiwdalar, a'r Sabboth oedd y dydd. Nid oes yr un hanes fod crefydd wedi cael un lle yn ei feddwl cyn hyn; ond dyn y byd, a'i awydd yn fawr am ymgyfoethogi ydoedd, ac nid oes un lle gennym i gredu fod unrhyw amcan arall ganddo wrth droi i mewn i'r capel nag i orffwys a bwrw ei flinder. Ond yr oedd yno bysgotwr dynion yn y pulpud y bore hwnnw, a phan dynnwyd y rhwyd i'r tir cafwyd fod Dafydd Jones wedi ei ddal. Y gŵr da a duwiol Isaac Price oedd y pregethwr, ac efe oedd gweinidog Troedrhiwdalar yr adeg honno. Wedi ei droedigaeth, cododd awydd angerddol yn Dafydd i wneyd rhywbeth dros ei feistr newydd, a gwahoddodd Isaac Price i bregethu i ardal Crug y Bar. Bu llwyddiant mawr ar ei bregethu, a sefydlwyd achos yn "nhy Mari Dafydd"—hen fwthyn llwyd, to gwellt, yn yr hwn y trigai hen wreigan pur dduwiol. Yn y cysegr hwn y bu Nansi Crug y Bar yn molianu gannoedd o weithiau, ac feallai mai yma y ganwyd yr hen alaw adnabyddus sydd yn gysylltiedig a'i henw am y waith gyntaf. Nid yw yr hen dy yn aros heddyw, a phrin y gwyr neb am le ei sylfaen. O biti, fod dwylaw anystyriol yn tynnu muriau hen leoedd cysegredig Cymru i lawr. Carem addoli ar garreg aelwyd yr hen dy a myned yn ol mewn dychymyg at lawer amgylchiad sydd a'i hanes ar lafar gwlad heddyw. Daeth rhywun a'r newydd yno ym mis Chwefror 1797 fod y Ffrancod wedi glanio yn Abergwaen. Yr oedd y cyffro yn fawr iawn. Dychrynai dynion cryfion, a dechreuai y gwragedd lefain allan. Nid oedd dim i wneyd ond gadael y cyfarfod yn y man a rhedeg adref, ac aros am i'r Ffrancod ddod. Mewn moment gwelent y meusydd gwenith yn cael eu hysgubo i ffwrdd, gwelent eu gwragedd a'u plant yn syrthio o dan garnau meirch y gelyn, ond yng nghanol y cyffro wele Nansi ar ei thraed ac yn ledio pennill,—
Mae ymn hen weddiwyr
Fel Elias gynt,
A chwytha Bonaparte
Fel niwl o flaen y gwynt."
Canwyd a chanwyd nes bod y pentref yn dispedain. Ciliodd ofn rhag y gelyn, a daethpwyd i deimlo fod Un yn darian ac yn astalch iddynt. Diosgwyd y suchwisg, a gwregyswyd pawb â llawenydd.
Wrth drin y tir, a phrynnu a gwerthu anifeiliaid, yn ogystal a barddoni, y bu Dafydd