Jones byw. Cymhwysder diogel iawn yn hanes dynion oedd yn cymeryd rhan amlwg gyda chrefydd oedd eu bod yn medru rhigymu. Dyma un rheswm paham na dderbyniodd Williams Pantycelyn erledigaeth fel ei frodyr oedd yn pregethu. Yr oedd yn "brydydd," chwedl mawrion y tir yn yr oes honno, ac ofnai pob erlidiwr rhag digwydd iddo wneyd cân o wawd iddynt. Cleddyf llym daufiniog oedd rhywfath o awen, ac nid oedd dim ar y ddaear yn cyffwrdd â hunan barch dynion i raddau mwy na bod yn destyn cân o wawd yn un o ffeiriau Cymru. Byddai y bechgyn a'r merched yn ei dysgu, a chenid hi ym mhob man nes bod diffyg rhagoriaethau a phechodau yr erlidiedig ar bob tafod trwy y gymydogaeth. Un parod iawn oedd Dafydd Jones gyda'i bennill. Wrth roddi gorchymyn i'r crydd i wadnu pâr o esgidiau iddo, dyma ddywed,—
Rhowch i mi bar o dapau,
Rhai tewion, nid rhai tenau,
A ddalio i fynd o fan i fan
Yn wydnon dan fy ngwadnau."
Yr oedd ganddo was hynod yn hoff rhyfeddol o gaws. Dyna yr unig rinwedd oedd yn perthyn iddo. A dywed ei feistr wrtho,
Ti fyti fwyd o'r gore;
Pe dalit gwys fel torit gaws
Fe fydde'n haws dy ddiodde."
Er nad oes gennym hanes ei fod wedi pregethu dim erioed, na'i fod ymhlith yr hen gynghorwyr, eto i gyd y mae ganddo syniad go dda am gymhwysderau y swydd. Dywedodd rhywun fod tri pheth yn angenrheidiol i bregethwr,—sef llygad eryr, calon llew, a llaw dynes; mewn geiriau ereill,— craffder i adnabod dynion, dewrder i siarad â dynion, a hyfedredd i drin dynion. Yn yr un cyfeiriadau y rhedai cymhwysderau Dafydd Jones o Gaio, ond credai fod ereill yn angenrheidiol, oherwydd dywed,—
Pumpeth wna bregethwr gallant,
Calon Pedr, doniau Rowlant,
Corff Will Harry, cffyl Benni,
Pwrs y Popkin gyda hynny."
Y Parch. Peter Williams, Caerfyrddin awdwr y Nodiadau, yw Pedr; a Rowland, Llangeitho, yw perchen y ddawn. Dyn o gorff cryf oeld Will Harry—yr oedd ei lais fel taran, a phregethai yn achlysurol gyda'r Methodistiaid. Ffermwr o sir Benfro oedd Benni, pregethai, a phob amser pan ar ei daith marchogai geffyl da. Dyn cyfoethog o Abertawy oedd Mr. Popkin. Daliai athrawiaethau Sandemaniaeth, a bu yn achos o lawer iawn o ofid i'r Corff Calfinaidd yn ei ddydd.
Lle digon llwm yw yr Hafod Dafolog. Y mae yn agored i'r tri gwynt, ac estynna y creigiau eu hesgyrn allan trwy groen y ddaear, ond yr oedd yr emynnydd yn credu yn gryf yn ei fferm,—
"Nid oes neb ond sy'n ei nabod
Wyr fath le rhyfedd sy'n yr Hafod.
Ceirch yn llawn, porfa'n iawn,
Gwair a mawn yn gywren.
Mae popeth yno ag sy'n angen
Ond y dwr, yr hairn, a'r halen."
Dyna ddywedodd efe pan boenodd ei gyfeillion ef, pan yn symud o Gwmgogerddan tua'r Hafod a'i anrhefn. Fe "Cyfieithydd Watts " yr adnabyddir Dafydd Jones, ac nid yw dylanwad y gwaith a wnaeth eto wedi ei lawn gydnabod.
Cyn i Williams a'i hymnau ddod yn adnabyddus, yr oedd canu mawr ar waith Dafydd Jones. Efe ddiwallodd yr angen cyntaf yng Nghymru am odlau ysbrydol i osod allan y profiadau newydd a gynyrchwyd pan aeth heibio y cyfnod Laodiceaidd yn hanes crefydd ein gwlad. Yn 1753 y cyhoeddodd ei gyfieithiad o Salmau Watts, ac yn fuan iawn cyhoeddodd gyfrol o hymnau o'i waithef ei hunan. Nid oedd galwad am goethach cyfieithiad nag eiddo Edmwnd Prys o Salmau Dafydd. Gwae y gynulleidfa honno na theimla ei bod yn cael cyfodiad wrth eu canu yn nhawelwch bore dydd yr Arglwydd. Pan y mae yr addolwyr wedi eu bedyddio gan dangnefedd Duw, y mae salmau yr archddiacon wedi cyweirio allor ein calonnau ugeiniau o weithiau, a threfnu yr aberth ar gyfer y tan o'r nefredd. Ond nid rhoddi i'r genedl gyfieithiad coeth oedd amcan Dafydd Jones. Nid oedd ychwaith yn amcanu at gyfieithiad cywir o'r salmau, ac nid yw yn angenrheidiol dweyd nad oedd yn alluog i roddi coethder na chywirdeb. Casglu tanwydd i'r ysbryd newydd oedd wedi dod i blith crefyddwyr yn unig oedd ei amcan. Yn ei ragymadrodd i'r cyfieithiad cyntaf, dywed Watts, wrth gyfrif am ei fod wedi rhoddi syniadau y Testament Newydd yn iaith Psalmau yr Hen Destament,— Nid oes un angenrhaid arnom i ganu yn wastadol yn arddull aneglur rhagfynegiad, pan y mae y pethau a ragddywedwyd am danynt wedi eu dwyn llawn oleuni trwy gyflawniad llwyr o honynt. Pan y mae ysgrifenwyr y Testament Newydd yn dyfynu, neu yn cyfeirio at ryw rai o'r Salmau, cymerais y rhyddid o aralleirio yn fynych yn unol â geiriau Crist, neu yr apostolion Lle y mae y Salmydd yn desgrifio crefydd fel ofn Duw, mi a gysylltais ffydd a chariad yn aml at hynny. Lle y mae efe yn llefaru am faddeuant pechod trwy drugareddau Duw, mi a chwanegais haeddiannau yr Iachawdwr. Lle y mae efe yn aberthu bychod a bustych, yr wyf fi yn dewis yn hytrach enwi aberth Crist, Oen Duw. Pan y mae efe yn dwyn yr arch