Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

Na wrthod, ferch, dy berchi,
Na phraw ymadaw â mi.
Gelynes, mau afles maith,
Wyd imi od aud ymaith.
Meinwen, na ddos o'm anfodd,
Byth nid aud ymaith o'm bodd.


I'r Lleian.

CARU dyn lygeitu, lwyd,
Yn ddyfal a'm gwnai'n ddifwyd.
Os mi a'i câr i arall,
Myn Duw gwyn, mi nid wy' gall.
Ai gwir, y ferch a garaf,
Na fynny fedw hoywdw haf?
Ac na thewy ny tŷ tau,
Wythliw sêr, a'th laswyrau?
Crefyddes o santes wyd,
Caredig i'r côr ydwyd.
Er Duw, paid â'r bara a'r dŵr,
A bwrw ar gas y berwr.
Paid, er Mair, a'r pader main,
A chrefydd menych Rhufain.
Na fydd leian y gwanwyn,
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn.
Dy grefydd, deg oreuferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy a mantell,
A gwyrdd wisg a urddai well.
Dyred i'r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwŷdd a'r gog.