Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ble mae Richards o Dregaron,
David Rowland, gynt o Cynon,
Jones o Llanbedr, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Ambrose o Borthmadog,
Ac Ap Fychan, wr ardderchog,
Christmas Evans, ble mae hwnw
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Roberts o Llangeitho,
Thomas Richards o Sir Benfro,
David Griffiths, anwyl enw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mac Morris o Dŷddewi,
Enoch Lewis wedi hyny,
Stephen Lewis, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Evans o Llwynffortun,
Richard Humphreys, gynt o'r Dyffryn,
Edward Morgan, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Hughes, a Rees, Llynlleifiaid,
David Morgan, Rhydfendigaid,
Rees, Tregaron, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Howells, Abertawe,
James, Penbont, er maint ei ddoniau,
David Roberts, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Morgan Howells, er mor hynod,
Daniel Evans, Capel Drindod,
Evans, Woodstock, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.