ei bod yn sypyn o beth fach binc, ychydig fisoedd oed mewn dillad del, a stoc reit dda o ddillad ar wahân mewn basged fawr. At hyn yr oedd swm gweddol o arian, digon at ei magu. Dywedwyd mai Alina oedd ei henw ac yr oedd yr enw wedi ei weithio ag edau sidah goch ar ei dillad, heb y syrnám, a dyna sut y cafodd hi'r cyfenw Morgan gan ei mam-faeth yng Nghymru. Yr oedd hi'n fodlon iawn ar yr enw, pa beth bynnag arall a oedd ar goll.
Rhyfedd fel y llwyddodd i gofio am bron bopeth o'r gorffennol y nos hon. Gwibiai ei meddwl ar draws ac ar hyd, o'r naill beth i'r llall. Mor fyw i lygad y meddwl oedd y cwbl. Gwelai Modryb Lora hoff wedi gorffen gwaith y tŷ, yn eistedd yn ei chadair wrth y tân yn darllen, neu'n gweu neu wnïo byth a hefyd, a phob dim o'i chwmpas yn loyw fel seidar. Ni fyddai hi byth yn hel tai i chwedleua. Do, cafodd amser da efo Modryb Lora.
Cefnasai Lora Morgan ar y Tŷ Hen ers tua phedair blynedd, ond nid cyn ei gosod hi, Alina, ar ben y ffordd i ymladd ei brwydrau ei hunan. Gofalodd am ei phrentisio ym mhrif fasnachdy'r dref, cyn gynted ag y gadawodd yr ysgol ddydd; ac yr oedd hi erbyn hyn wedi dod i gael cyflog byw gweddol ddel.
Chwarae teg i'r eneth, ceisiai edrych yn barhaus ar yr ochr orau i bethau; a synnai ati hi ei hun yn sefyllian wrth y ffenestr fel y gwnai i "hel meddyl-