O dipyn i beth wedi dechrau gwrando ar chwyrniadau Sera Defis o'r llofft arall, yr oedd cwsg yn ymlithro'n araf deg drosti hithau, ond rhywfodd cofiodd yn sydyn ei bod heb ddweud ei phader. A oedd eisiau ei ddweud? oedd ei chwestiwn nesaf. Codasai rhyw amheuaeth ynghylch yr arferiad hwn yn ei meddwl droeon cyn hyn. Ond fel bob tro o'r blaen, ei chael ei hun yn ei ddweud drwyddo yn ei meddwl ar ei gorwedd dan y dillad a wnaeth hi; ac yn naturiol fel arfer wrth gwt y pader, daeth yr hen adnod fach honno: "Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf; canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei imi drigo mewn diogelwch.'
*****
Buan y cynefinwyd yn yr Hendre Gaerog, fel mhobman arall, â sŵn y seiren, a'i rhybuddion anhyfryd; er y teimlid o hyd yr un hen ias, "fel petai rhywbeth yn rhoi hoelen sgriw drwy eich calon, chwedl Leusa Huws, yn enwedig ar y trawiad cyntaf o'r sŵn.
Ond erbyn hyn, ni faliai nemor neb am gadw'r gwahanol orchmynion a roddwyd ar y dechrau gan hwn ac arall, sef am iddynt ofalu sefyll mewn rhyw gongl neilltuol rhwng y drws a'r ffenestr. Hefyd yr oed swatio dan y bwrdd yn blan da, a gwell plan na'r cwbl ydoedd mynd i'r twll-dan-y-staer.
Ambell dro, digwyddai i'r seiren nadu yn ystod y