petai ganddi le; yr oedd hi dros ei deg a thrigain. Felly cafodd hi ac Alina lonydd, rhyw fath o lonydd.
Bu'n rhaid i Leusa Huws y tŷ nesaf gymryd dau o blant ifainc—brawd a chwaer, y naill yn bump a'r llall yn saith oed—rhy ifainc, yn wir, i ddod mor bell oddi cartref heb eu mam, chwedl hithau. Bu'r ddau fach yn brefu gan hiraeth bron drwy'r noson gyntaf, yn ddigon â thorri calon dyn.
O dipyn i beth, medrwyd eu cael i gynefino â'u cartref newydd, ac i ddechrau chware â phlant eraill. Wedyn, toc iawn, fe'u clywyd yn parablu Cymraeg er boddhad mawr i Leusa Huws a'i gŵr.
Cŵynai ar adegau dros y wal gefn wrth Sera Defis fod cryn drafferth efo'r cnafon bach, a dyheai am y diwrnod y byddent yn troi'n ôl. Eto i gyd, tendied neb arall rhag dweud dim anffafriol am y ddau blentyn a oedd dan ei gofal hi!
Torrwyd ar y sgwrsio arferol dros wal y cefn un pnawn gan gnocio trwm ar ddrws ffrynt Sera Defis. Brysiodd hithau i'w ateb.
"Ai yma y mae Miss Alina Morgan yn byw?" meddai'r Saesnes ddieithr ar garreg y drws.
"Ie," meddai gwraig y tŷ.
"A gaf i ei gweld?
Dyw hi ddim i mewn 'rŵan, ond fydd hi ddim yn hir cyn dod o'r siop. Dowch i mewn i'w haros." Troes Sera Defis hi i'r gegin orau. Ymddiheurai am nad oedd yno dân yn y gegin honno y diwrnod hwnnw; a synnai ati hi ei hun yn llwyddo i glebran