uwchben y llygaid glas tywyll wedi eu plicio a'u trimio, a'r gwefusau wedi eu paentio'n drwm.
"Ofnaf fy mod wedi eich ypsętio," ebr y ddynes. "Ni ddylwn fod wedi fy nadlennu fy hun mor sydyn ichwi."
"Sut yr wyf i wybod eich bod yn siarad y gwir?" oedd yr ateb.
"Gadewch inni eistedd," ebr y ddynes. Buont yn siarad am o leiaf awr, ac ofnai Sera Defis yn y gegin gefn fod y ddwy yn starfio, er nad oedd hi eto ond diwedd Medi.
*****
"Yn wir, y mae rhyw bethau rhyfedd ofnadwy yn digwydd yn y byd 'ma!" meddai Sera Defis wrth estyn hanner llwyaid o siwgwr i'w chwpan amser swper. Yr oedd Mrs West (canys dyna oedd enw'r ddynes ddieithr) wedi gwrthod aros i swper; ond daeth cyn belled â'r gegin gefn am funud neu ddau, er mwyn iddi hi a Mrs Defis gael eu cyflwyno i'w gilydd.
Yr oedd hi, Mrs West, wedi gorfod ffoi o Lundain i Gymru i chwilio am nodded rhag y bomiau echrydus. Yr oedd ei nerfau bron yn dipiau. A meddyliodd, wrth ddewis yr Hendre Gaerog, efallai y buasai'n dod o hyd i Alina. Yr oedd wedi cael llety reit gyfforddus gyda Mrs Preis, Heather View, Stryd yr Haul, y tŷ nesaf i Rock View, ac yr oedd