disgwyl i'r eneth fedru dygymod â'r hyn a ddaeth arni mor sydyn. Rhyfeddai, er hyn, na buasai hi'n llawenychu o gael cwrdd â'i mam, yn enwedig o gofio sut y bu hi'n gofidio am na chafodd erioed wybod hyd yn oed pwy oedd ei rhieni heb sôn am eu gweld.
"A dyma hi, wedi i'r fam gael ei gyrru gan fomiau Hitler o Lundain i Gymru at ei phlentyn, 'dydi'r plentyn ddim gronyn balchach o'i gweld. Mae'n anodd i'r Brenin Mawr wybod sut i blesio pawb yn y byd 'ma," ebr Sera Defis ynddi ei hun.
Yr oedd stori'r fam wrth Alina yn y gegin orau yn rhedeg yn bur llyfn. Sut bynnag, yr oedd aml gwestiwn rhwng cromfachau y carasai'r eneth eu gofyn a chael atebiad iddynt. Prif swyddog ar long fawr oedd ei thad, yn ôl y stòri. Collodd ei fywyd ar y môr cyn i Alina gael ei geni. Yr oedd y fam wedi priodi'n is na'i sefyllfa, a hynny'n groes i ewyllys ei rhieni. Digiwyd hwy yn enbyd. A'r unig ffordd i gael eu maddeuant, a chael drws agored i'w chartre'n ôl ydoedd drwy yrru ei baban i Gymru i'w magu. Dywedai ei bod wedi hiraethu llawer amdani ar hyd y blynyddoedd.
Ond ni fedrodd Alina dderbyn y geiriau olaf yna'n ddi-gwestiwn yn ddistaw yn ei chalon. Mor hawdd y gallasai ddyfod i'w gweld, ac i edrych a oedd hi'n cael ei magu'n iawn ai peidio. Faint a faliodd hi am ei baban diniwed? Er ei gwaethaf,