cododd rhyw atgasedd cudd yn ei chalon tuag at y fam hon. Yn lle holi tipyn arni, aeth yn fud.
Rhaid oedd coelio mai hi oedd ei mam, wedi'r cwbl. Gwyddai i'r dim am y man-geni a oedd ar ei chlun dde. "Y mae gennych farc ar eich clun dde sy'n union fel eiren Victoria, onid oes? meddai hi yn y gegin orau. Addefodd Alina fod ganddi farc felly.
Aeth y fam ymlaen i ddweud fel y cofiai'n dda amdani'i hun yn blysio eiren Victoria aeddfed, felys wrth weld eu blodau mewn perllan yn y wlad allan o Lundain, ac ychwanegodd mai yn y bru yr oedd hi, Alina, y gwanwyn hwnnw.
A thoc, wrth droi a throsi'r geiriau hyn yn ei meddwl, gofynnodd Alina i Sera Defis a fedrai hi roi rhyw oleuni iddi ar eu hystyr. Beth oedd â wnelo'r eiren Victoria â'r man geni a oedd ar ei chlun hi?
"O, y mae pethau tebyg i hynyna'n digwydd weithiau i wragedd beichiog," oedd yr ateb. "Daw blys mawr arnynt am rywbeth neu'i gilydd i'w fwyta, ac os na fedrent ei gael i borthi'r ffansi, bydd llun y peth a flysiwyd gan y fam, fel rheol, yn ymddangos as ryw ran neu'i gilydd o gorff y baban. Mae hynyna'n beth rhyfedd iawn i'w ddweud, ond dyna'r ffaith. 'Fûm i 'rioed yn un farus iawn, ac mi ges bopeth a oedd gen i ei eisiau wrth gario John bach ers talwm. A 'doedd dim marc o fath yn y byd arno fo.