peth tebycaf i fod yn wir, ydoedd mai rhyw filwr o'r rhyfel mawr o'r blaen oedd ei thad.
Ychydig a wyddai Alina am yr holl' siarad a'r dyfalu a fu am ddyddiau wedi dyfodiad ei mam i'r ardal. Bob tro yr âi hi heibio i Stryd yr Haul i fynd â'i mam am dro, byddai rhes o lygaid yn gwylio rhwng llenni'r ffenestri, ac yn cael pleser o wylio'r ddwy yn troi allan.
Un pnawn dydd Iau, aeth Alina â'r fam newydd am dro go hir am tua dwy filltir allan i'r wlad. Synnai'r eneth na buasai'r ddynes hon yn dotio tipyn at liw'r Hydref. Yr oedd dail y coed yn odidog, a digwyddai'r pnawn fod yn heulog a thawel. Ni welodd yr eneth erioed o'r blaen, yn ei meddwl hi, mo'r cwr hwn o'r ardal mor brydferth.
Hudodd Alina hi draw o'r ffordd i gael cip-olwg ar y rhaeadr trochionnog a ruthrai drwy'r ceunant gyda dwndwr mawreddog ar ôl glawogydd y dyddiau o'r blaen.
Yr oedd un cipolwg arno yn ddigon gan Mrs West. "'Does gen i ddim eisiau gweld peth fel 'na! Nid yw'n apelio ataf o gwbl. Yn wir, y mae'n gas gennyf leoedd anial a gwyllt fel hyn," ebr hi.
Brysiwyd yn ôl i'r ffordd fawr, a thoc daeth tŷ fferm gwyngalchog i'r golwg, rhyw led cae o'r ffordd.
Nid oedd yn hoffi golwg y tŷ hwnnw chwaith; a methai ddeall sut yr oedd neb yn medru byw mewn