gwlad mor ddistaw. Yr oedd golwg rhy brudd ar bopeth yn y wlad iddi hi.
Crefodd am gael brysio ymlaen i rywle lle'r oedd tai a phobl. Sicrhai Alina hi nad oeddynt ymhell o bentre'r Gelli.
"A oes yno dafarn?"
"Oes, mae yno fwy nag un dafarn."
Goleuodd llygaid Mrs West yn hyfryd, er iddi gwyno nad oedd yn teimlo'n hanner da wedi cerdded mor bell. Teimlai fod rhyw oerfel wedi cydio ynddi ar ôl cerdded trwy'r tir tamp i edrych ar y rhaeadr hwnnw. Byddai'n rhaid iddi gymryd tropyn o wisgi i'w chynhesu. A pheth arall, nid oedd ei chalon yn rhy dda un amser. Yr oedd yn gorfod cymryd brandi neu chwisgi yn barhaus ers tro i'w chadw ei hun i fyny. Yr oedd y bomiau yn Llundain wedi andwyo ei nerfau ar wahân i stad ei chalon.
Cododd ei siarad fymryn o fraw distaw ym mynwes Alina. Ofnai i rywbeth ddigwydd i'r ddynes a hwythau braidd ymhell o gyrraedd tai. Ac i wneud ei phryder yn waeth, yr oedd ganddynt allt i'w dringo, cyn y medrent gyrraedd i lawr i'r Gelli.
Wrth lwc, nid ymddangosai Mrs West ei bod yn colli nemor ddim ar ei gwynt wrth ddringo'r allt, a chafodd Alina ryddhad i'w meddwl. Wedi cyrraedd y Gelli, aeth y ddwy ar eu hunion i'r prif westy. Diolchai'r hynaf o'r ddwy am gael ystafell siriol i