Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/39

Gwirwyd y dudalen hon

iwrs nos yfory yn ôl ein bwriad, a gawn ni fynd am dro a mwynhau tipyn ar ryfeddodau natur ein cartref ein hunain, petai ond er mwyn tipyn o newid? Mae'r gwanwyn yn y coed. Mae'r llwybrau yno wedi eu taenu à blodau i'n haros. Yno mae'r adar yn canu, ac yn caru. A pham nad awn ninnau allan ar hyd llwybrau natur iach yn llawn cân a chariad, yn lle mynd i edrych beunydd a byth ar bobl Hollywood yn caru..

Mae mêl i bâr hawddgaraf
Yn yr oed yng nghoed yr haf.

Cawn fynd i weld pobl Hollywood ar noson lawog. Y maent hwythau yn ddiddorol dros ben, chwarae teg iddynt, er gwaethaf eu holl ffug! Byddaf yn disgwyl amdanoch yn yr un man ag arfer.

Yn bur.
Derwyn."

Plygodd y llythyr dan wenu'n ddireidus. Torrodd yr enwau Alina a "Derwyn " i ffwrdd i ddechrau, a stwffiodd hwy i'w phwrs hyd oni châi ryw fflam fach o dân yn rhywle i'w llosgi. Yna cododd a cherddodd ychydig ôl a blaen, a phan welodd nad oedd neb o gwmpas i sylwi, gollyngodd y llythyr plygedig i'r llawr heb fod nepell oddi wrth y fainc.

Eisteddodd unwaith eto yn gyfforddus. Daeth tren i mewn o rywle, ac ar drawiad yr oedd y lle yn llawn berw o sŵn traed a lleisiau Saesneg mamau a phlant yn gymysg â'i gilydd, gan ruthro ymlaen am