am y rheswm syml fod eisiau celwydd i guddio celwydd yn barhaus. Credai'n gryf fod iddi ddinas noddfa draw, rhywle yn un o drefi mawr Lloegr.
Ac o gofio am y ddynes-na', cofiodd hefyd y câi Derwyn wybod o'r diwedd pwy oedd ei mam. Digon tebyg yr âi Derwyn i'r chwarae chwist a oedd i fod yno nos drannoeth. Byddai'r ddynes na' mor sicr â dim o fod yno—y hi a Mrs Preis. Nid oedd na dawns na chwist yn digwydd heb fod y ddwy yno'n eu mwynhau eu hunain yn bennaf pobl.
Tybed a fyddai i Derwyn weld y tebygrwydd yn y ddynes-na' iddi hi? Ond pa ots beth a feddyliai Derwyn y naill ffordd na'r llall, bellach? Yr oedd goleuni dydd wedi torri ar y dirgelwch a fu cyhyd yn rhan o chwilfrydedd rhai o bobl yr Hendre Gaerog. Ysgafnhâi ei chalon wrth feddwl ei bod bellach allan o olwg ei hen gydnabod.
Ni fu hi erioed yn Llundain o'r blaen. Ond yn reddfol dilynodd y lliaws i fynd allan o'r orsaf. A phan yn petruso ennyd, ar y palmant o'r tu allan, trawodd ar ddwy ferch ifanc mewn gwisgoedd caci yn sgwrsio â'i gilydd. Gofynnodd iddynt a fedrent ei rhoi ar ben y ffordd i fynd i'r cyfeiriad a oedd ar y papur yn ei llaw.
Dacw gerbyd sydd ar gychwyn tua'r man a'r lle 'rwan," ebe un ohonynt yn garedig.
Brysiodd Alina at y cerbyd a dringodd iddo. Tinciodd y gloch, a chaeodd trafnid a thrwst Llundain amdani gan ei lapio o'r golwg.