ryw blwc rhyfedd wrth gofio ei fod ar gael ei ddeugain oed. Anodd iddi oedd coelio'r ffaith.
Llefnyn o hogyn yn yr ysgol sir oedd Idwal adeg y rhyfel mawr o'r blaen; ac ef oedd y swcwr mwyaf i'w fam tra bu ei dad yn y rhyfel hwnnw. Gwannaidd fu ei hiechyd hi, fwy neu lai, bron ar hyd ei bywyd priodasol. Ac wedi i'w dad orfod mynd i'r rhyfel yn y blynyddoedd hynny, gofalodd yr hogyn, ohono'i hun, am gymryd lle ei dad drwy godi yn y bore i gynnau'r tân i'w fam, a'i helpu mewn llawer dull a modd.
Ymhyfrydai yng ngwaith y tŷ. Codai'r lludw a'i gludo allan i'w ogrwn; a blacledio'r grât lawer tro cyn i'w fam godi. Golchai'r lloriau iddi ar y Sadyrnau yn rheolaidd, a hynny cyn dwtied â'r un ddynes. Gwraig lwcus oedd Blodwen Wiliams. Cafodd ŵr medrus â gwaith tŷ, a chafodd fab i gerdded yn ôl traed ei dad.
Datblygodd a cherddodd yr un llwybr â'i dad a'i fam fel canwr hefyd. Bendithiwyd ei rieni â lleisiau a fu'n cyfareddu cynulleidfaoedd cylch eang o'u gwlad, oddi ar pan oeddynt onid rhyw ddwy ar bymtheg oed, a chyn hynny, efallai.
Yr oedd rhamant yn sŵn eu henwau, a rhamantus a fu'r yrfa iddynt, yn enwedig ym myd y gân. Byddai'r ddau yn cystadlu ar y llwyfannau beunydd, a hynny yn erbyn ei gilydd. Ni siomid y naill pan fyddai'r llall yn ennill y gamp. Colli'n dipiau fyddai hanes y ddau ambell dro; ond ni fennai hynny ar yr