ebr yntau, wedi tynnu'r cetyn o'i enau a'i ddal rhwng ei fys a'i fawd am funud.
"Yr wyt ti wedi bod yn meddwl yn galed am rywbeth er pan ddeffrist di. Am beth, wn i ddim."
"Wel, i ddechrau cychwyn, cofiais fod gen i isio torri coed tân. Braidd rhy 'chydig oedd gen i i gynnu'r tân 'ma bora heddiw. Peth arall, rhaid imi ddwad â bwcedad o lo i'r tŷ fel arfar."
"Ai dyna'r cwbwl y bu'st di'n cysidro cyhyd yn ei gylch?"
"'Ro'n i'n cofio hefyd am yr hen Wili, ers talwm."
"Wili Huw Huws?
"Ia. 'Ro'n i'n cofio fel y byddech chi'r g'nethod yn gwrthod mynd efo fo."
"'Rwyt ti'n cofio pethau rhyfadd!"
"Hogyn clên oedd Wili, a hogyn del at hynny. A'r unig fai yn ei erbyn gynnoch chi'r g'nethod oedd ei fod yn golchi'r lloriau i'w fam."
"Ia, dyna oedd ei fai mawr gynnon ni. Mae hynyna'n wir. Fedra ni mo'i ddiodda fo. Am beth arall fu'st di'n meddwl?"
'Dwyt ti ddim wedi bod yn erbyn i mi olchi'r lloriau i ti, y nag wyt?"
"Nac ydw'n siŵr! Oes gen ti awydd edliw peth felna imi wedi 'ni fynd i'r oed yma?
Chwarddodd y gŵr yn ei lawes gan edrych cyn sobred â sant, wrth weld y fflach yn ei llygaid duon, fel y gwelodd ganwaith pan oedd hi'n eneth ifanc