"Mae gwraig Wili yn dal i weithio yn yr ardd heblaw yn y tŷ. Ac mae o'n cael tendans fel petai o'n brins, medda nhw."
"Chwara teg iddo gael tendans. Mi weithiodd o ddigon i'w fam pan oedd o'n hogyn. Beth arall sy gen ti i dreio 'mhoeni fi?
I dorri ar y sgwrs, rhaid oedd agor y drws drachefn i'r gath, a fewiai'n swnllyd eisiau dod i mewn. Wedi dod i'r gegin, dechreuodd chwyrnu.
"Dyma pws wedi dal llygoden!" ebe Blodwen yn falch ei thôn. A daliai'r gwrcath i chwyrnu fel petai rhywun am gipio'i brae oddi arno.
Ond o dipyn i beth, pan aeth pws i ddechrau mynd drwy ei gampau, gwelwyd mai aderyn oedd ganddo.
Cododd y ddau ar unwaith i geisio'i achub o'i balfau. Cydiodd Teigar yn ffyrnicach ynddo, a dihangodd i gongl rhwng y soffa a'r organ.
Cydiodd Blodwen yn y procer fel yr erfyn agosaf i law, i'w hel allan. "Petai ti wedi dal llygoden, cawset groeso," ebr hi, "ond cweir iawn gei di am ddal 'deryn bach diniwad!"
"Howld on! Beth sy get ti a minnau i'w ddeud wrth pws? 'Rydan ninnau fel pobol yn lladd adar ac yn eu buta."
Wyt ti am gadw chwara teg i'r hen fwystfil bach drwg?"
Gwyddai Hywel yn dda na frifai Blodwen ddim ar Teigar.