Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/7

Gwirwyd y dudalen hon

wynned â'r lliain bwrdd. Neidiodd wrth deimlo cyffyrddiad pawen y gath ar ei ffedog. Nid oedd Twm yn hoffi sŵn y seiren mwy na'i feistres. "'Steddwch Mrs Defis bach," ebr Alina. "Peidiwch â'ch styrbio'ch hun. Ddaw'r hen aflwydd ddim y ffordd hon. Mynd am Lerpwl, neu rywle tebyg, y mae o. 'Does dim iddo i'w gael mewn lle fel hyn.

Ar hynyna, dyna Mrs Huws y tŷ nesaf yn rhuthro i mewn â'i gwynt yn ei dwrn.

"O'r tad! Beth ddaw ohono ni, deudwch?" ebr hi. Honno eto fyth cyn wynned â'r galchen.

"'Rown innau'n gofyn i Alina 'rwan, tybed a fyddai'n well inni fynd i'r sbens," ebr Sera Defis.

"Mi es i i'r sbens yn fy ffwdan, a'r peth cyntaf a ges yn fanno oedd llygoden fach yn rhedeg o gwmpas fy nhraed. 'Chlywsoch chi mono fi'n sgrechian, deudwch?"

"Naddo! meddai'r ddwy, a thorrodd Alina i chwerthin er gwaethaf difrifwch" yr awr.

"Chwerthwch chi neu beidio, 'ngeneth i. Hwyrach mai crio y byddwch chi toc," meddai Leusa Huws.

Taerai hefyd na fyddai'n waeth ganddi weld bom yn disgyn na gweld llygoden yn rhedeg o gwmpas ei thraed.

Eisteddodd y tair o gylch y tân yn dawel i sgwrsio am hyn a'r llall, a soniwyd cryn dipyn am hanes y difrod a'r trychinebau a fu yn nhueddau Lloegr y dyddiau o'r blaen. Ail-adroddwyd mwy nag un stori