Tudalen:Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors).pdf/5

Gwirwyd y dudalen hon

Ac wedi gwneyd ei hun i fyny,
I wlad Cymru fe aeth bob cam,
Yn ei gadair yn ergydio,
Y gwaeddi "Halo" wrth 'Fotty ei fam.

A Lowri Dafydd a dd'wedai ar fyrder,
"Ai machgen tyner ydwyt ti?"
"Bachgen —Tim Cymraeg: hold your pother,
Mother; you can't speak with me."

A Lowri a ddanfonai yn union
Am y Person megys Pab,
A fedrai grap ar iaith y Saeson,
I siarad rhwng y fam a'r mab!

Yna'r Person 'nol ymbleidio,
A'i tarawodd ef â'i ffon,
Nes oedd Dic yn dechreu bloeddio,
"O iaith fy mam, mi fedra' hon,

Ac wrth yru yn rhy gynddeiriog,
'E daflai ei gadair ryw brydnawn,
Ar ei ben powdwr i bwll mawnog,
Lle b'uasai gynt yn codi mawn.

Ar brydnawn 'roedd Dic yn yfwr,
Ac yn ddwnder bloeddiwr blin;
Ac er na cha'dd of gartre' ond glasdwr,
Fe aeth yn ddigynwr yfwr gwin.

O'r diwedd Dic a aeth cyn dyned,
Prin y gallai dd'wedyd "Bw,"
A gofyn iddo byddai ffyliaid,
"Mr. Davies, how do you do?"

Aeth i gaboli efo biliau,
Ac i wneyd rai prydiau lawer tric;
Mae rhai yn d'wedyd mai o'i anfodd,
Ond Ow ow! fe dorodd Dic.

A phan ddarfu am ei gynnydd,
'Roedd rhai yn d'weyd ei fod e'n ffol ;
A'r lleill yn gofyn mewn llawenydd,
"Wel, Die Shon Dafydd, dde'st ti'n ol?"

Cymmerwch ofal ar bob adeg,
Rhag ofn rhedeg i'r un rhic,
Dyn cynmedrol ddeil i fyny,
Cofiwch fel y darfu i Dic.

Glan-y-Gors.
J. JONES.