Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

rhywbeth sy'n peri i ddyn fyw, symud, a bod mewn rhyw bomp chwyddedig. Braint eraill yw cael meddwl a siarad am dano ef, ac y mae'r dyn na wna hynny i dosturio wrtho oherwydd ei ddylni. "Holl ogoniant dyn," beth am yr eilun yma? "Gwywodd y glaswelltyn a'i flodeuyn a syrthiodd." Diar annwyl, ai dyna'r cwbl? "Pa le y gadewch eich gogoniant? medd rhyw air. Ond fydd dim eisiau iti drafferthu i wneud dy ewyllys ar hwn—fydd o ddim ar gael.

DOETHINEB YSBRYDOL.—Y mae rheswm yn cywiro'r synhwyrau. Y mae'r haul yn llai na'r ddaear. meddai'r synhwyrau; ond y mae rheswm yn correctio'n union, ac yn dweud bod pethau pell yn ymddangos yn fychain iawn. Y mae'r ddaear yn llonydd yn ei hunfan, medd y synhwyrau yma; ond y mae ymchwiliad rheswm yn deud ei bod yn mynd bob munud â rhyw gyflymdra ofnadwy, nes yr ydym yn synnu bod neb ohonom yn sefyll ar ei hwyneb heb syrthio ar draws ein gilydd ac yn powlio i rywle oddiar ei hymyl. Wel, fel y mae pethau rheswm uwchlaw eu gwybod trwy weithrediad yr holl synhwyrau, felly y mae pethau yr ysbryd uwchlaw eu deall trwy'r holl alluoedd naturiol yma. Rhyfedd gyda'r fath hunan—hyder dwl y mae dysgedigion annuwiol y byd yma wedi bod yn trin y pethau sydd o Ysbryd Duw yn ysgrifennu llyfrau, a scriblio erthyglau i'r papur, yn erbyn gwirionedd Duw. Y mae'r Apostol Paul ar unwaith yn eu rhodd 'out of court,' ac yn mynd i'r 'witness—box' i dystio am bethau na wyddant hwy ddim yn eu cylch. Y maent yn rhesymolwyr afresymol, oblegid y mae rheswm yn galw am i ddyn beidio a siarad yn erbyn pethau na ŵyr ddim am danynt.