Gwirwyd y dudalen hon
nghanol twr o Saeson; i ba le yr oeddynt yn myn'd? O, i'r cyfarfod gweddi, neu i'r Seiat. Pa le y maent. yn awr? Yng ngeiriau Ieuan Glan Geirionydd:
Wedi dianc uwch gelynion,
Croesau, a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.
Byddaf yn dych'mygu weithiau
Fry eu gweld yn Salem lân,
Ac y clywaf ar rai prydiau
Adsain odlau per eu cân.
Ond mae'r amser bron a dyfod
Y caf uno gyda hwy.
Yn un peraidd gör ddiddarfod,
Uwchlaw ofn ymadael mwy.
Chymerent hwy ddim mil o fydoedd am ddod am chwarter awr i'r ddaear yma, a cholli y nefoedd am chwarter awr,-
"Os rhaid goddef ar fy nhaith
Dywydd garw,
Cadw f'ysbryd yn dy waith,
Hyd fy marw."
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.