Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/123

Gwirwyd y dudalen hon

yn meddwl mai hwnnw oedd y brenin i fod. "Na, nid hwna," medda Duw, "nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchter ei gorffolaeth, canys gwrthodais ef, oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn." Y mae golygiad da o ran buchedd a chymeriad yn wrthodedig ganddo os bydd y galon o'i lle, ac i'r graddau y bo dyn yn cael ei sancteiddio—yn cael ei wneud yn debyg i Dduw—y mae'n dyfod i edrych fel yr edrych Duw arno'i hun,—edrych ar ei galon ei hun yn gyntaf peth.

Am y gwir gredadun, er bod ganddo ofal am ymddwyn yn addas i Efengyl Crist, ac am i'w oleuni lewyrchu gerbron dynion, y mae'i ofal a'i drafferth bennaf gyda'i galon o'r tu fewn. Y mae'n hiraethu a dyheu, "O na byddai'r galon lygredig yma sydd gini yn fwy sanctaidd, O na byddai'r galon galed yma yn fwy tyner, y galon falch yma yn fwy gostyngedig, fy nghalon ddaearol yma yn fwy nefolaidd ac ysbrydol ei meddylfryd a'i myfyrdodau." Ei ddymuniad blaenaf gerbron Duw—

"Boed fy nghalon iti'n demel
Boed fy ysbryd iti'n nyth,"

a'i drafferth grefyddol bennaf ef pan fo yn ei le ydyw ceisio trefnu ei galon annhrefnus i fod yn rhyw gysegr bychan i Arglwydd nef a daear breswylio ynddi. O, dyma ymdrech y bywyd duwiol yma: cadw'r galon heb ei halogi gan feddyliau annheilwng a fyddo'n ei hamghymwyso i ddal cymundeb â Duw. "Yr ydw i yn ei gwneud yn fater cydwybod," meddai'r Thomas Fuller, pan ofynnwyd iddo ac efe'n ddyn ieuanc ar adeg ei ordeiniad, a oedd efe wedi derbyn yr Ysbryd Glân. "Alla i ddim ateb y cwestiwn yna," meddai, "a ydw i mewn gwirionedd wedi