Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

derbyn yr Ysbryd Glân. Ond gallaf ateb fy mod i'n arfer gwneud mater cydwybod o'm meddyliau dirgelaidd." Yr oedd hynyna yn ddigon, a 'doedd dim eisio rhagor o helynt efo fo. Gyfeillion, a ydyw yn "fater cydwybod" gennym, nid yn unig beth i'w siarad a beth i'w wneud, ond beth i'w feddwl. (c) Y mae'r cadw hwn ar y galon yn bwysig, eto, oherwydd y prysurdeb diorffwys sydd yng nghalon dyn-lluosogrwydd meddyliau sydd yma yn amlder fy meddyliau o'm mewn." Fe gyflawnir yma lawer iawn o dda neu ddrwg. Heblaw bod drwg feddyliau ac ofer feddyliau yn bechodau, fe fyddant yn llawer iawn o bechodau-" mor fawr fydd eu swm hwynt." Y fath dorf ddirif sydd yn myned i mewn ac allan mewn un wythnos, ie, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo mewn un diwrnod yn fynych. Wel, os gadewir i holl feddyliau a dychmygion y galon yn ddiwahardd a diddisgyblaeth i weithredu anwiredd y fath swm dirfawr a weithredir ganddynt mewn pedair awr ar hugain. "Os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch."

(d) "Cadw dy galon yn dra diesgeulus," y mae hyn yn bwysig, oblegid ei fod yn waith mawr a fydd heb ei wneud oni wneir o gennym ni ein hunain. 'Does dim help daearol i'w gael o'r tu allan at y cadw hwn. Nid ydi'r hyn fydd ynddo'i hun yn bwysig i'w wneud ddim mor hynod o bwysig i ni feddwl amdano os gellir disgwyl i eraill ei wneud drosom ni, neu ei wneud mewn rhan drosom ni. Nid peth fel yna ydyw cadw'r galon. Y mae'n waith mawr tragwyddol ei ganlyniadau, ond yn waith sydd yn sicr o fod heb ei wneud oni wneir o gennyt ti dy hunan. Fe