Awn bellach ymlaen tros wyneb gwastad y Morfa, a deuwn yn ebrwydd i ben rhiw serth, ac oddiar y tro ar ei chanol canfyddwn odditanom ddyffryn bychan. Dyna bentref Edern ar y llethr dros y bont, ac y mae'n bentref glanwedd a dymunol. Yr ydym yn awr yn ardal Porthdinllaen. Awn trwy'r pentref yn hamddenol, a dyfod at fryncyn oddeutu milltir y tu hwnt iddo. Gedwch inni oddiyma edrych yn ol i gyfeiriad y dwyrain, a rhoddi trem ar olygfa wych. Dyna fynyddoedd yr Eifl a charn Boduan megis mur rhwng cantref Arfon a gwlad Llŷn. Tros eu pennau cawn gip cynnil ar fynyddoedd Eryri. I'r de o Foduan eto dacw fynyddoedd Meirion yn y golwg o'r Moelwyn i Gader Idris. Yn ein hymyl ar y chwith y mae glasfor bae Caernarfon, a thraw ar y dde, yr ochr arall i'r penrhyn dacw fae Tremadog a glannau Meirion. Ni fu lawer harddach golygfa na hon yn enwedig pan fo awyr glir-denau ar brynhawn-gwaith i'w dangos yn ei gogoniant.[1]
"A harddaf haul rhuddfelyn
Yn bwrw o'i wawl ar y bryn."
Gwelwn ein bod mewn gwlad brydferth, lawn o amrywiaeth. Fe geir yma ambell randir wastad ac unffurf, ond, at ei gilydd, gwlad y mân fryniau a'r mân ddolydd ydyw, ac, er mantais iddi hi a'r trigolion, fe'i dyfrheir â llawer o fân ffrydiau byw.
Syml a thlodaidd, yn ol a ddeallwn, ydyw bywyd y bobl yn y cyfnod hwn, megis yn amser Pennant. Ni fedd ond ambell ffermwr cefnog gerbyd marchnad—a gig yn gyffredin a fydd honno. Gellir gweled
- ↑ Y Parch. J. Hughes.