Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

rhai tipyn distatlach yn cyrchu i Bwllheli ar echel y drol (y trwmbal wedi'i ddatgysylltu a'i roi i gadw) a bagiad o wellt yn gwasanaethu fel cwshin. Bydd John, y gwas, yn fynych, yn ol ei gytundeb wrth gyflogi, yn sicrhau'r fraint o farchogaeth ar un o geffylau ei feistr i'r ffair.

Bara haidd—cynnyrch gwlad Llŷn—a fwyteir gan mwyaf. Pan leddir eidion ar ddechrau gaeaf rhennir yr asennau i gymdogion o gwmpas, a helltir y gweddill o'r corffyn at angen y teulu. Fe leddir yn bur fynych lo pasgedig yn y gwanwyn—dyna ffordd effeithiol ac ymarferol o groesawu'r haf i Lŷn.

Gofelir mynd a digon o wlan i'r ffatri fel y ceir rholiau o frethyn erbyn dechrau'r gaeaf. Dyna'r adeg y daw " John Ifans y teiliwr " neu rywun o'r gelfyddyd, i wneud siwtiau i bob aelod o'r teulu, a chan fod y wlad mor faethlon i dyfu corff, daw'r siars, dro ar ol tro, am "eu gwneud yn ddigon mawr." Gellir dywedyd am dani hithau Lŷn,—

"Cneifion dy dda gwynion gant
Llydain a'th hardd ddilladant."

Y mae'r wlad yn cyflenwi cyfreidiau'r trigolion syml eu bywyd. Am danynt hwy'r preswylwyr, y maent yn bobl radlon a hynaws, pobl yn cymryd hamdden i fyw, ac yn sicr ni fynnant i'r dieithrddyn a fyddo o fewn eu terfynau fod ar ei gythlwng.

Sonnir cryn lawer am gynnyrch y wlad doreithiog hon mewn anifeiliaid; ond y mae llawer gwlad, ysywaeth, na fedr hi gynhyrchu dim mwy cyfrifol. Nid felly hon. Fe all hi ymffrostio yn ei meibion o "ddoniau tramawr." Y mae iddi hanes a thraddodiadau sy'n cerdded ymhell iawn yn ol, ac y mae stôr