Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

II.

MAB Y BRYNIAU.

O'r man y safem i gael cip o olwg ar y wlad gwelwn ffermdy led deugae oddi wrth y ffordd bôst. Fe saif yn glyd megis mewn cwpan rhwng y mân fryniau. Dyma'r Bryniau, neu fel y gelwir ef ar dafod pobl Edern " y Byrna."

Gallesid ysgrifennu cryn lawer am deulu'r Bryniau, petai ofod i hynny, oblegid fe ddaeth yn deulu mawr, adnabyddus, ac anrhydeddus. Yn y cyfnod y soniwn am dano yr oedd yn deulu cynhyddol dros ben, a magwyd yma gynifer ag un ar ddeg o blant. O'r rheini y mae'n fyw heddiw Mrs. Williams, Tymawr, Clynnog, a'r Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr.

Yr oedd y tad a'r fam, Owen a Mary Williams, yn bobl fucheddol a thra synhwyrol. Gwladwr oedd Owen Williams, o feddwl cryf, yn ddarllenwr mawr, ac yn gwybod ei Feibl yn dda. Fe ddywedir bod ganddo reolaeth bendant iawn ar ei deulu. Pan gychwynnai i'r oedfa fore Sul rhoddai dro drwy'r buarth, a chlywid ei Jais yn gofyn i'r llanciau a oeddynt yn barod am y capel, gan awgrymu, wrth gwrs, €u bod i ddyfod. Ni fu bywyd y cartref yma heb ei warchod, er nad oedd na'r tad na'r fam ar y pryd yn perthyn i grefydd. Ni fu Mary Williams yn hir lawn heb ddyfod; ond am Owen Williams cerddodd ef hyd at warthaf pedwar ugain mlwydd cyn ym-