Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

ohoni. Rhaid ydyw cydnabod bod pwyllgor (ond "comiti" fyddai ei air ef) yn flinder iddo, a hynny, meddai ef, am y dywedid cymaint o bethau disens ynddo.

Yr oedd gorsedd David Williams yn y pulpud ac ni ddeisyfodd yr un arall. Yng nghorff y deng mlynedd a hanner y bu yn y Felinheli parhau i ennill poblogrwydd a dylanwad a wnaeth David Williams.

Gwelwn arwydd ar ei ddyddiaduron, er moeled ydynt, ei fod yn astudio'n ddyfal, ac yn byw ym. mhorfeydd breision y Piwritaniaid. Hoff oedd ganddo ysgrifennu nodiadau o sylwadau byw a bachog, un ai o'i feddwl ei hun, neu o waith rhywun arall. Gwel- wn hefyd argoel ei fod yn ymgodymu ag ambell bwnc.

Ni wyddys i Ddavid Williams newid dim ar ei ddull o bregethu. Fe fu trawsgyweiriad yn null llawer pregethwr o fri fel Edward Matthews, Owen Thomas, Joseph Thomas, ac eraill, ond arhoes ef yn ei ddull a'i ddawn gynhenid.

Cyfnod o ychwanegu nerth ac ymloywi a fu'r adeg a dreuliodd yn y llannerch hyfryd ar fin Menai. Mynych y gelwid ef i'r prif wyliau, ac nid oedd odid yr un Cyfarfod Misol na cheid ef ynddo i bregethu. Fel David Williams" y cyhoeddid ef fel rheol, ond fel "Dafydd Williams" y siaredid am dano gan ei wrandawyr cynefin, ac yr oedd llond yr enw olaf o barch, edmygedd, ac anwyldeb.

Erbyn y flwyddyn 1876 fe ddaeth i'r maes yn Arfon rai doniau newydd, megis, Thomas Roberts, Jerusalem; Francis Jones, J. Eiddon Jones, ac eraill; ond fe ddaliai ef ei dir, pwy bynnag arall a fyddai yn y golwg.