VII.
I'R BRYNIAU'N OL.
1894—1920.
Yr oeddys yn arfer dywedyd mai dyn gwlad oedd David Williams, a rhyfedd oedd gan lawer iddo er ioed ymdaro mor wych, a llwyddo mor amlwg, yn ninas Lerpwl. Pan gyfarchai Gymry a oedd yn byw'n feunyddiol ynghanol ffrwst a ffwdan bywyd tref ni fedrent hwy lai na theimlo bod awel y mynyddoedd yn chwarae ar eu meddyliau yn null ac ymadroddion y proffwyd hwn. Ni fu i nag ysgol na dim arall glipio dim ar adenydd ei ddawn. Gwladwr ydoedd yn myned i Pall Mall, ac yr oedd yn gymaint dyn gwlad yn dyfod oddiyno.
Rhyw gymysg deimladau a geir, fel rheol, pan fo un yn mudo, a meddyliau amryw a dieithr yn ymgronni, ac ymgroesi hefyd, yn ei fynwes. Yn nwfn ei galon fe hiraethai am lonyddwch a thawelwch gwlad; ond ei brofiad ef, fel llawer un arall, ydoedd fod newid cylch y nesaf peth i newid byd.
Estynnodd ei babell mewn man hyfryd ddigon sef ym Mhenmorfa, ar gwr Dyffryn Madog, ac fel hyn y disgrifia'r Parch. Morris Thomas, M.A., yn fyw a diddorol y fro hynod honno—Bethel a Phenmorfa.