Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/75

Gwirwyd y dudalen hon

"Yna," glywch chi, "yna, yr Iesu a ddaeth a'r drysau yn gaead"—yn sydyn hollol, a Thomas yn y fan yna yn syllu arno, ac yn clywed ei dyner lais a adwaenai'n dda yn dweud y gair cysurlawn hwn, "Tangnefedd i chwi."

Yr Arglwydd a drôdd ac a edrychodd ar Thomas, a rhyw ryfedd dosturi a gras a chydymdeimlad yn ei edrychiad, ac yr oedd hyn yn ddigon i ddryllio cadwynau'i anghrediniaeth yn chwilfriw mân. Y mae dagrau edifeirwch yn llenwi ei lygaid ac yn prysur dreiglo i lawr. "Wel, Thomas bach, methu credu yr wyt ti? peth sobor ydi methu credu—O, mi garwn iti gredu. Wyddost ti be', Thomas. mi fuaswn i yn fodlon i'r briwiau yma gael eu hagor eto pe meddyliwn y credit—'moes yma dy fys, a gwêl fy nwylaw,' dyma'r dwylaw a hoeliwyd ar y Groes, dyma fy ystlys a drywanwyd, estyn dy law. A ydyw yn gwneud. hynny? Na! Na!! Na!!! ni chymerai fil o fydoedd am dreio gwneud. Gwell ganddo syrthio wrth ei draed a gweiddi—"Fy Arglwydd a'm Duw—Fy Arglwydd a'm Duw."

Dyma'r proffwyd a enillodd glust y bobl. Cyfrannodd air y bywyd yn ei ddull digymar ei hun. Rhoes syniad am realiti profiad ysbrydol dwfn. Dysgodd i bobl fyw yn addas i Efengyl Crist a hynny heb flew ar ei dafod. Ni cheisiodd ef fod yn ddim ond pregethwr, ac, yn hynny o swydd, fe gyrhaeddodd y brig mewn poblogrwydd a dylanwad.