Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

III.

HIWMOR.

Fe sylwyd eisoes ar y cyffyrddiadau digrif a geid yn britho'i bregethau. Yr oedd ei ddull ymadrodd ac ambell air gwerinol, cwbl naturiol iddo ef, yn creu rhyw wên ar wyneb y gynulleidfa. Dros ben hynny yr oedd haen—a haen gref—o hiwmor ynddo. Cadwai'r digrifwch dan reolaeth go gaeth yn y pulpud, ond fe'i ceid yntau ar achlysuron yn rhyw syrthio i'r demtasiwn o lacio'r awenau—a dweud gair "scaprwth." Er hynny i gyd, ni adawodd iddo droi yn lleidr, ac ni thramgwyddai'r un Piwritan wrtho. Fe'i defnyddiai yn urddasol a chymesur.

"Hyn oll a roddaf iti os syrthi i lawr a'm haddoli i," meddai'r diafol wrth yr Iesu. 'Roedd o'n siarad fel rhyw landlord mawr cyfoethog, ond tasa chi'n mynd ar i bac o yng ngwlad y Gadareniaid 'doedd. gyno fo ddim cymin a mochyn ar i elw."

Wrth son am ddynion Jehu yn dwyn pennar meibion y brenin. "Yr oedd y rhain yn sgut am bennau, welwch chi."

"Arian ac aur nid oes gennyf," meddai Pedr. "Wir d'ydwi ddim yn meddwl y buasai Pedr byth yn hel arian tasa fo wedi aros efo'r hen gwch hwnnw.