Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/85

Gwirwyd y dudalen hon

iadu a fyddai arno wedi ei fyned i swydd, a dymunodd gael cyngor gan David Williams yn wyneb hynny. "Y mae'r cwbl mewn un gair, frawd bach, meddai, "tipyn o ysbryd mud a byddar—chewch chil ddim gwell na hwnnw."

Yr oedd yr oedfa yn un o gapelau Ffestiniog ar ryw brynhawn yn drwm a dilewyrch braidd. Y mae yntau'n llygadu ar y blaenoriaid swrth oedd tano yn eistedd. "Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân,' beth ydi o deudwch? Wel mi ddeuda'i wrthoch beth nad ydi o: pe buasai i un ohonoch chi sydd yn y set fawr ryfygu dweud 'Amen,' fasa fo ddim yn bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, welwch chi."