Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/93

Gwirwyd y dudalen hon

GWAG BLESERAU.—Y mae'r dyn ysbrydol yn mynd mor ddifater am wag bleserau'r byd ag oedd Saul, mab Cis, am asynod ei dad pan glywodd gan Samiwel am y frenhiniaeth. Yr oedd yn llawn o feddyliau am yr orsedd ac ef a "ollyngodd heibio chwedl yr asynod,"—do yn bur ddidrafferth, r'wyn siwr. 'Doedd trotian ar ol asynod trwy fynydd Effraim yn dda i ddim wedyn.

CYFOD A RHODIA.—Y mae'n dechrau ymysgwyd drwyddo—bob gewyn ar waith i geisio codi, ac i fyny y mae'n dod, dim ond i Pedr just ymaflyd yn ei law ddehau. Fasa fo ddim i Pedr wneud rhyw gowlaid o hono fo, a'i godi i fyny tase eisiau. Yr oedd Pedr yn ddyn esgyrnog—breichiau a gewynnau cryfion ganddo, wedi iwsio gweithio'n galed hefo'i hen gwch pysgota, a lygio yn y rhwydi. "Ymaflodd yn ei law," nid i'w helpu i godi, ond i'w helpu i gredu y medrai godi.

MODDION GRAS.—Daeth y dyn i'r synagog er bod ei law wedi gwywo. Dyma wers i rai beidio ag aros gartra oherwydd bod eu llaw neu rywbeth arall wedi gwywo, mewn amser o glwy neu dlodi. Da chwi, ewch a'ch meddyliau i fyny. Penderfynwch ddyfod i'r synagog ar y Sul, a pheidiwch a mynd yn sal fore Sul mwy na rhyw fore arall. Nid oes afiechyd yn dod yn rheolaidd bob saith niwrnod —nonsens yw hynny i gyd.

GWENIAITH.—"Na hyderwel: ar dywysogion," glywch chi? Rhyfedd yr helynt sydd ar bobl trwy'r oesau yn ceisio ymwthio i ffafr tywysogion—ymgrymu, gwenieithio, rhyw fflatro tywyllodrus, bowio a hanner addoli dynion, a gwneud eu hunain yn bo-