Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/99

Gwirwyd y dudalen hon

chenfigennu wrth eraill. Edrych ar ei ffordd ef, a. bydd ddoeth." Treia bilffro tipyn o synnwyr o'i ben ef i'th ben gwirion dy hun. "Edrych ar ei ffyrdd a bydd ddoeth." Nid oes ganddo fo neb i'w arwain a'i lywodraethu. 'Does gan y morgrugyn bach neb i'w ddwrdio am gysgu yn rhy hwyr yn y bore ac esgeuluso'i waith. "Er hynny," glywch chi, "y mae'n paratoi'i fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf,"—a hynny yn ddigon di—dwrw.

PEDR.—Anwadalwch. Cyn y buasai Thomas wedi ei roddi ei hun mewn shiap penderfynu ar rywbeth, fe fusai Pedr wedi hen orffen gwneud ei feddwl i fyny, ac wedi gwneud llawer heblaw meddwl. Yr oedd meddwl yr un peth a gwneud iddo fo. Bydd— ai'n esgyn i'r nefoedd, ac yn disgyn dan draed llwfrdra yn sydyn iawn. Y mae'n rhuthro fel arth i'r soldiwr hwnnw yng Ngethsemane efo'i gleddyf, a rhoi slap i'w glust wrth geisio torri'i ben o, ond ymhen awr yn crynu fel brwynen yn wyneb y forwynig honno. Treio torri'i ben o (gwas yr archoffeiriad) yr oedd Pedr 'does dim doubt. Y mae Mathew Henry yn synnu, wedi i Bedr ymaflyd yn ei gleddyf, na buasai wedi gwneud am ben Judas. Profodd Pedr mai bwngler oedd o efo'i gleddyf y tro cyntaf iddo dreio—methu'r strôc fel hyn.

GOGONIANT DYN A'I WAGEDD.—"Gogoniant dyn!" Rhai a ymddiriedant yn eu golud, eraill a ymffrostiant yn eu gwaedoliaeth uchel a'u teitlau urddasol, eraill a orfoleddant yn eu gwybodaeth a'u dysg, a'r rhai mwyaf penffol, yn eu prydferthwch personol. "Gogoniant dyn," beth ydyw? Wel, gwagedd wedi'i droi yn eilun—dduw. "Gogoniant dyn!"