Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/10

Gwirwyd y dudalen hon

Yn dda cywira ddeiol—y bysedd
A'i bwysau'n briodol,
Un gonest yn ei ganol,
A'i ben yn iawn, heb bin yn ol.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Abergele yn 1791, ar dir a gafwyd ar delerau manteisiol, gan wr o'r enw Hugh Pierce, a ddaethai yma o Henllan. Ac y mae yn deilwng o'i gadw mewn cof mai gan yr un gwr y cafodd y Wesleyaid yn 1804, a'r Annibynwyr yn 1842, dir i adeiladu eu capelau cyntaf hwythau. Ymhen yn agos i chwe' blynedd—— a phaham yr oedwyd cyhyd tybed?—yr ydym yn eu cael yn ei gofrestru yn ol y gyfraith yn lle addoli. A ganlyn sydd gopi o'r cais ac o'r cadarnhad:—

"To the Right Reverend Lord Bishop of St. Asaph—

This is to Certify that we whose Names are hereunto subscribed being some of his Majesty's Protestant Dissenting Subjects together with Others of the Same Persuasion do intend to Meet for Religious Worship at a Chapel Called Chapel Street Ucha, in the Township of Gwrych, in the Parish of Abergele, in the County of Denbigh, and Desire the same to be Recorded.

JOHN HUGHES.
JOHN GRIFFITHS.
WILLIAM JONES.
JOHN JONES.
THE MARK X OF DAVID ROBERTS.
JNO. HUGHES.

Entered of Record in the publick episcopal Registry of Saint Asaph the 15th day of June, in the year of our Lord, 1797.
JOHN JONES, Dep. Regr."

Y cyfleusdra a'r llonyddwch y gwelai a roddid iddo yn y capel hwn yn ddiau a arweiniodd y Parch. Thomas Lloyd i symud ei ysgol o Llansantsior i'r dref yn 1799. Mor fuan ag yr ymunodd efe â'r Methodistiaid yn y Bryngwyn, aeth y son am hyny i glustiau y gweinidog plwyfol a Mr.