Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

hyn y cawn son eto. Ac yn gyfamserol yr ydym yn eu cael yn chwilio am bregethwr i lafurio yn eu mysg fel bugail, ac yn gwahodd y gwr ieuanc rhagorol, Mr. Joseph Evans, Dinbych, atynt ar derfyn ei dymor yn Athrofa y Bala yn 1859. Eithr ni bu ef yma ond ychydig wythnosau. "A nychdod fe'i torwyd ymaith," yn 26ain oed. Yn 1860, cawn hwy yn galw y Parch. Wm. Roberts atynt o Dywyn (Dyffryn Clwyd), lle yr oedd yn weinidog ac yn cadw ysgol. Bu ef yma mewn cysylltiad bugeiliol am 17eg o flynyddoedd, sef hyd nes yr yr ymddiswyddodd i wneyd gwaith efengylwr teithiol. Profodd ef yn helaeth o'r adfywiad crefyddol a fu yn y deyrnas hon trwy weinidogaeth y Mri. Moody a Sankey o'r America; a bu ei weinidogaeth yntau yn effeithiol i chwanegu llawer at yr eglwys hon, a lliaws o eglwysi eraill yn ngwahanol siroedd y Gogledd yn y blynyddoedd hyny. Yn 1866, ymgymerwyd a'r cyfrifoldeb o adeiladu capel newydd, am fod yr un a adeiladwyd yn 1791, er ei helaethu ddwywaith, wedi myned rhy fychan, yn gystal ag yn rhy henaidd; ac oherwydd dylanwad ac esiampl y Mri. David. a John Roberts, y naill yn addaw £500, a'r llall £250, dilynwyd hwy gan eraill gyda symiau llai, nes bod cyfanswm yr addewidion y noson gofiadwy hono yn Hydref y flwyddyn a enwyd yn agos i ddwy fil o bunau—swm na addawsid ei gymaint ar unwaith, o leiaf at gapel mewn unman yn Nghymru erioed o'r blaen.

Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn i roddi i mewn yma yr adroddiad a gyhoeddwyd yn y Faner yr wythnos ddilynol:—

CAPEL NEWYDD Y TREFNYDDION CALFINAIDD YN ABERGELE. Gan fod y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele mewn angen am gapel newydd, mwy na'r un presenol, a chan eu bod wedi llwyddo i brynu tir cyfleus i adeiladu arno, daethant i'r penderfyniad o gynal cyfarfod cyhoeddus i roddi cyfleusdra i'r eglwys a'r gynulleidfa hysbysu pa faint a