Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/20

Gwirwyd y dudalen hon

ion yn unig—myned drostynt megis am eu harian, yn lle goleuo y meddwl a deffro y gydwybod a'r galon, a'u codi i actio oddiar egwyddorion ac ystyriaeth sanctaidd ac Ysgrythyrol. Pe bai'r efengyl yn nerthol weithio o'n mewn ni, mae hi yn ddigon cref i dynu ein henaid ni allan i bob haelioni, yn rhinwedd ei hysbryd a'i hegwyddorion ei hunan, heb gynorthwy dim moddion ansanctaidd a chynhyrfiadau dynol. Cauwch eich llogellau, a chofiwch tra y mae eich arian yn aros ynddynt, eu bod, fel y dywed Pedr wrth Ananias, yn aros i chwi, ac yn hollol yn eich meddiant, a pheidiwch a gadael i ddimai fyned allan o honynt ond oddiar argyhoeddiad o'ch dyledswydd. Ond tra yn cadw eich hunain yn berffaith annibynol ar ddynion, cofiwch eich rhwymedigaethau i Dduw. Gwyliwch, yn eich eiddigedd i gadw eich hawl eich hunain yn eich meddianau bydol, fyned i wadu hawl Duw. Os ydych yu berchenogion gyda golwg ar ddynion, goruchwylwyr ydych gyda golwg ar Dduw. Eiddo Ef yr aur, ac eiddo Ef yr arian; ac os oes rhyw gymaint o honynt yn eich gofal chwi heddyw, arian eich Harglwydd ydynt. Efe a'ch galwodd chwi, ac a roddes ei dda atoch; ac mor sicr ag iddo wneyd hyny, fe'ch geilw chwi eto i wneyd cyfrif â chwi am y defnydd a wnaethoch chwi o honynt hwy. Yr ydych yn awr yn myned it adeiladu capel newydd. Goddefwch i mi ofyn, I bwy yr ydych yn myned i'w godi ef? Oddiar ba ystyriaethau yr ydych yn myned i weithredu? A ydych chwi yn credu fod Duw yn eich galw chwi i wneyd hynyma? A ydych chwi yn credu fod rhwymau arnoch i'w wasanaethu Ef yn efengyl ei Fab? A ydych chwi yn credu bod eglwysi a chynulliadau Cristionogol, y gwasanaeth a'r addoliad sydd ynddynt, yn osodiadau Dwyfol—yn ffrwythau cnawdoliaeth a marwolaeth tragwyddol Fab Duw—yn foddion i waredu dynion o ddistryw, a'u parotoi i wynfyd diddiwedd? A ydych chwi yn profi eich bod chwi wrth ddyfod i gynulleidfa y saint yn dyfod i fynydd Seion?

Y mae yn sicr i chwi, pe na buasai y Beibl yn dyweyd gair wrthym am haelioni achos crefydd, y buasai naturiaeth ei hun, ond profi daioni gair ac ordinhadau ty yr Arglwydd, yn dysgu haelioni i ni, tra y mae achos crefydd yn galw am hyny. Ond y mae y Beibl yn dysgu y peth hefyd. Dyma un o'r prif ffyrdd i ddynion ddangos eu cariad at Grist yma. Oblegid y mae business teyrnas Crist ar y ddaear tan yr un condition a phob business arall yn gofyn arian i'w ddwyn ymlaen; ac felly, os bydd dyn yn caru Crist a'i achos, y mae'n sicr o ddangos ei gariad trwy fod yn gysegredig iddo. Gall angylion a saint yn y nef ei garu heb roddi dimai at ei achos ef; ond nid ellwch chwi wneyd felly, oblegid yn y byd yma y mae ei achos yn gofyn am arian i'w ddwyn ymlaen. Y mae crefydd, byth wedi'r cwymp, debygwyf fi, wedi bod yn fusnes costus yn ein byd ni. Yr oedd