Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/26

Gwirwyd y dudalen hon

Williams y pryd hwnw—y cafwyd y cwpanau a'r platiau at yr un gwasanaeth.

Gan Miss Lloyd, Ironmonger, y cafwyd y gwpan a ddefnyddir yn ngwasanaeth Bedydd, y platiau casglu, ac yn ddiweddarach harmonium, eiddo ei diweddar chwaer, at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol.

Gan Miss Roberts a Miss Ella Roberts, Tan yr allt, y cafwyd y piano sydd yn yr Ysgoldy.

Cafwyd, hefyd, Feibl yn rhodd gan Mrs. Edwards, Park Villas, at wasanaeth y pulpud; ac un arall gan Mrs. Vaughan, gynt o Benybryn.

PENNOD IV.

Yr Ysgol Sabbothol.

Ymddengys mai y man cyntaf y cynhaliwyd Ysgol Sabbothol ynddo yn yr amgylchoedd hyn oedd y lle y pregethwyd ynddo gyntaf—y Nant Fawr. Adroddid gan Mrs. Davies, Roe Gau, Llanelwy, yr hon a fagwyd yn y gymydogaeth, a fu farw yn 1895, yn 95 oed, y byddai William Jones, y Nant, yn cerdded prif—ffyrdd a chaeau a thai y gymydogaeth pan yr oedd hi yn blentyn i gymell hen ac ieuainc iddi. Ac nid amhossibl na pharhawyd yr ysgol hon am ysbaid wedi adeiladu y capel yn y dref. Dechreuwyd Ysgol hefyd, yn dra buan ar ol hon, yn nechreu y ganrif ddiweddaf, os nad cyn hyny, yn y Wern bach, gerllaw y lle y mae capel Tabor yn awr. Enwau gwr a gwraig y ty oedd Thomas a Catherine Jones. Gofalid am hon gan Mr. John Hughes, Penybryn. Wedi marw Thomas a Catherine Jones symudwyd yr ysgol i ffermdy Gwern y ciliau;