Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/28

Gwirwyd y dudalen hon

nosbarth Abergele, yn gystal a dosbarthiadau eraill yn sir Ddinbych yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf, yn ddiau, oedd y Parch. Thomas Gee. Yr oedd ei yni, ei fywiogrwydd, a'i fedr i ddeffro meddyliau, ac i ddenu atebion yr ieuainc, canol oed, a hen, y fath fel ag i'w osod ef ar ei ben ei hun fel arholwr; ac ni byddai yntau byth yn fwy wrth ei fodd na phan yn gwneyd hyny. Ar ei waith yn ymddiswyddo yn Mehefin, 1891, cyflwynodd y dosbarth hwn iddo anerchiad goreuredig yn y Gymanfa Ysgolion a gynhelid yn Abergele ar y pryd, i gydnabod ac i gadw mewn cof eu rhwymau iddo. Dilynwyd ef yn y gwaith yn rhan orllewinol dosbarth Abergele, sef y saith ysgol sydd yr ochr hono i'r afon Glwyd gan y Parch. D. L.. Owen, Bettws y pryd hwnw; Mr. Isaac Jones, Mr. John Jones, saddler; y Parchn. Owen Foulkes, Bettws; Francis Jones, Abergele; Robert Griffiths, Dinbych, a Robert Williams, Tywyn, yr arholwr presenol.

PENNOD V.

Y Pregethwyr fu yma yn Cartrefu.

GAN fod hanes pob un o'r rhai hyn eisoes yn argraffedig, nid oes achos am nemawr mwy yn y nodiadau canlynol na choffa amser ac yspaid eu cysylltiad a'r lle ac a'r eglwys hon.

THOMAS LLOYD.—Brodor o Gyffylliog ydoedd efe. Ganwyd ef yn 1776. Yn 1794 agorodd Ysgol Ddyddiol yn Llansantsior. Safle ei ysgoldy yno oedd y man y mae Mausoleum teulu Kinmel arno yn awr. Tra yno yr ymunodd â'r eglwys fechan yn y Bryngwyn, ac ymhen dwy neu dair blynedd